top of page

Amdanom ni

Girlguiding yw’r elusen blaenllaw ar gyfer merched a gwragedd ifanc yn y Deyrnas Unedig. Drwy ymroddiad a chefnogaeth dros 100,000 o wirfoddolwyr, yr ydym yn weithgar ar draws y D.U; yn cynnig cyfle i ferched a gwragedd ifanc fod yn rhydd i fod eu hunain, i gael hwyl, creu ffrindiau newydd, dysgu sgiliau bywyd gwerthfawr a gwneud gwahaniaeth bositif yn eu bywydau a’u cymunedau. Yr ydym yn magu hyder a chodi uchelgeisiau merched. Rydym yn rhoi cyfle iddynt ddarganfod eu potensial ac yn eu hannog i fod yn rym pwerus at achos da.

'Girlguiding' yw enw gweithredol The Guide Association sy’n cael ei rheoli o dan Siarter Brenhinol ac sydd yn elusen cofrestredig (rhif 306016). Gwyliwch y fideo isod i glywed mwy am Girlguiding a’r hyn y mae’r mudiad yn ei gynnig.

Yn Sir Gar mae gennym 1000 o aelodau a 200 o wirfoddolwyr. Mae pawb sy’n ymddangos ar y dudalen yma ac yn chwarae rol yn Girlguiding yn wirfoddolwr – o Gomisiynydd y Sir i’r arweinwyr yn yr unedau unigol. Mae 74 uned ar draws y sir, o Borth Tywyn i Lanymddyfri ac o San Cler i Drefach.

Mae Rainbows yn 5-7 oed

Mae Brownies yn 7-10 oed

Mae’r Guides yn 10-14 oed

Mae’r Senior Section yn 14-26 oed

Os ydych am ymuno, ewch at gwefan Girlguiding UK i gofrestru ar ein system ar-lein ‘Join Us’, mae linc at y dudalen isod, neu mi fedrwch ddod o hyd iddo drwy chwilio am Girlguiding drwy unrhyw chwiliadur.

Tudalen Adrannau

Girlguiding ydym ni!

Yr ydym ar agor i ferched o 5 i 105 oed! Mae gennym bedair adran:

a channoedd o wirfoddolwyr a chefnogwyr.

Yr ydym yn agored i bod merch a gwraig ifanc, beth bynnag eu cefndir a’u hamgylchiadau ac yn hollol gynhwysfawr i ferched ag anableddau. Rydym yn cynnig gweithgareddau hwylus, cyffrous a’r cyfle i wneud ffrindiau hir-oes. Fe ddewch o hyd i ni mewn sawl cymuned, yn rhoi cyfloeoedd i ferched ac yn eu hannog i fod yn hapus, yn hyderus ac yn awyddus i ddysgu am y byd o’u cwmpas a’r gwahaniaeth y maent hwy’n medru ei wneud.

Mae merched yn medru gweithio tuag at ystod eang o fathodynau, o goroesi, teithiwr byd a byw’n annibynnol i ymchwilydd gwyddonol, gwyliwr y ser ac antur.

Mae’n trefniadau gwersylla, gwyliau a gorymdeithio yn cynnig cyfleoedd am anturiaethau newydd o feicio cwad, cyfeiriadu ac abseilio i Zorbio, canwio a llithro gwifren-wib.

Mae’r rhaglen Peer-Education ac adnoddau arbenigol yn helpu merched i drafod pynciau megis anhwylder bwyta, gor-yfed, cyffuriau a iechyd rhywiol. Mae’n prosiectau’n addysgu merched ar faterion sensitif sy’n effeithio ar eu cyfoedion ar draws y byd megis trais yn erbyn merched, plant y stryd ac addysg merched.

Drwy ymuno a ni, mi fedrwch ein cynorthwyo i greu cyfleoedd anhygoel i ferched gael gofod diogel i fagu hyder, codi uchelgeisiau a chael hwyl pen i gamp! Mae sawl ffordd i wirfoddoli gyda Girlguiding – mae’n hyblyg ac yn gallu cael ei drefnu fel sy’n gyfleus i’ch bywyd chi. Boed yn awr neu’n fwy, mae bob eiliad yn cyfri!

BYDDWCH YN RHAN OHONO!

bottom of page